Description: Heather logo portraitCynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Busnes

Mehefin 2016

 

 

 

 

Diwygio Rheolau Sefydlog: Rheol Sefydlog 17 – Gweithredu Pwyllgorau

 

Diben

1.    Yn unol â Rheol Sefydlog 11.7(iv), mae'r Pwyllgor Busnes yn gyfrifol am wneud argymhellion ar arferion a gweithdrefnau cyffredinol y Cynulliad, gan gynnwys unrhyw gynigion i ail-wneud neu ddiwygio'r Rheolau Sefydlog.

2.    Mae'r adroddiad yn argymell diwygiadau i Reol Sefydlog 17 ynghyd â newid canlyniadol i Reol Sefydlog 12. Mae'r newidiadau a gytunwyd gan y Pwyllgor Busnes i'w gweld yn Atodiad A, ac mae'r cynigion ar gyfer Rheolau Sefydlog newydd i'w gweld yn Atodiad B.

Cefndir

3.        Trafododd y Pwyllgor Busnes newidiadau arfaethedig i'r weithdrefn ar gyfer ethol cadeiryddion pwyllgorau, yn unol ag argymhellion Fforwm Cadeiryddion y Pedwerydd Cynulliad ar rôl ac annibyniaeth cadeiryddion pwyllgorau, gan gytuno ar y newidiadau hynny.  Dywedodd Fforwm y Cadeiryddion:

Byddai proses newydd ar gyfer ethol Cadeiryddion pwyllgorau yn cryfhau annibyniaeth ac effeithiolrwydd pwyllgorau. Byddai sicrhau na all Cadeiryddion pwyllgorau gael eu diswyddo gan bleidiau gwleidyddol hefyd yn anfon neges glir mai craffu yw blaenoriaeth y Cynulliad newydd.

4.        Yn ei adroddiad etifeddiaeth, nododd Pwyllgor Busnes y Pedwerydd Cynulliad yr argymhelliad a ganlyn:

Dylai'r Pwyllgor Busnes newydd ystyried a ddylid mabwysiadu gweithdrefn wahanol ar gyfer ethol cadeiryddion pwyllgorau ar ddechrau'r Pumed Cynulliad. 

5.        Tŷ'r Cyffredin a ddarparodd y model amgen mwyaf amlwg ar gyfer dethol, penodi a diswyddo cadeiryddion pwyllgorau. Ers 2010, mae'r Tŷ cyfan wedi cytuno ar ddosbarthiad y cadeiryddion o blith pob plaid wleidyddol drwy gynnig a gyflwynir ar y cyd gan gynrychiolwyr o bob plaid, yna caiff cadeiryddion ac aelodau pwyllgorau adrannol a phwyllgorau dethol tebyg eu hethol gan y Tŷ cyfan drwy bleidlais gyfrinachol.

 

6.        Disgrifir gweithdrefn arfaethedig, sy'n seiliedig ar fodel Tŷ'r Cyffredin ond sydd wedi'i addasu at ddibenion y Cynulliad ac sy'n ystyried trafodaethau'r Pwyllgor Busnes, yn Atodiad A ac mae esboniad ohono isod.

 

Dyrannu cadeiryddion yn ôl grŵp gwleidyddol

 

7.        O dan y weithdrefn newydd hon, byddai'r Pwyllgor Busnes yn cyflwyno cynnig na ellir ei ddiwygio yn cynnig y grŵp gwleidyddol y byddai'n rhaid i gadeirydd pob pwyllgor fod yn perthyn iddo. Wrth gyflwyno'r cynnig, mae'n rhaid i'r Pwyllgor Busnes ystyried cydbwysedd gwleidyddol y cadeiryddion o ran y grwpiau gwahanol. Bydd angen cytuno ar y cynnig ar gyfer pob pwyllgor cyn y gellid ethol cadeiryddion. Mae'r Rheol Sefydlog 17.2B newydd arfaethedig yn darparu ar gyfer hyn – gan adlewyrchu a chymryd lle'r Rheol Sefydlog 17.4 gyfredol, sy'n sicrhau bod dyraniad cadeiryddion pwyllgorau yn adlewyrchu cydbwysedd gwleidyddol y Cynulliad.

 

8.        Mae'r Rheol Sefydlog 17.2D newydd arfaethedig yn ei gwneud yn ofynnol bod mwyafrif o ddwy ran o dair yn cefnogi'r cynnig i ddyrannu cadeiryddion i grwpiau.  Mae hyn yn adlewyrchu'r gofyniad bod dwy ran o dair o’r Aelodau sy’n pleidleisio yn cefnogi cynnig i gytuno aelodaeth pwyllgor (y Rheol Sefydlog 17.6(ii) gyfredol). Mae hyn yn sicrhau na all mwyafrif bach orfodi ei ewyllys ar y Cynulliad.

 

Ethol cadeiryddion pwyllgorau gan y Cynulliad

 

9.        Mae'r Rheol Sefydlog 17.2E newydd arfaethedig yn darparu ar gyfer ethol cadeiryddion pwyllgorau yn uniongyrchol gan y Cynulliad. O dan Reol Sefydlog 17.2F newydd, byddai'r Llywydd yn gwahodd enwebiadau ar gyfer cadeirydd pob pwyllgor. Rhaid i'r Aelodau a enwebir fod o'r grwpiau gwleidyddol a nodir yn y cynnig y cytunwyd arno gan y Cynulliad ynghylch dyrannu cadeiryddion i grwpiau.

 

Enwebu ymgeiswyr

 

10.     O dan Reol Sefydlog 17.2F newydd arfaethedig caiff ymgeiswyr eu henwebu gan aelod o'u grwpiau eu hunain. O gofio pa mor fach yw'r Cynulliad, ni chynigir cynnwys gofyniad i ymgeisydd gael ei eilio gan Aelod arall, heblaw yn achos grwpiau o fwy nag 20 Aelod.

 

11.     Mae'r drefn hon ychydig yn wahanol i'r system a ddefnyddir yn Nhŷ'r Cyffredin, sydd â llawer mwy o aelodau a lle y mae angen i Aelod gael ei enwebu gan 15 o Aelodau o'r un blaid, neu 10 y cant o Aelodau'r blaid, pa un bynnag yw'r lleiaf, a lle y gall cefnogwyr o bleidiau eraill lofnodi datganiad o gefnogaeth er nad yw'n cyfrif tuag at y trothwy enwebu.  Mae'r broses enwebu arfaethedig yn adlewyrchu trafodaeth y Pwyllgor Busnes ynghylch yr hyn sy'n ymarferol ac yn ddymunol mewn sefydliad llai o faint.

 

12.     Mae'r Rheol Sefydlog 17.2H newydd arfaethedig yn atal yr un Aelod rhag cael ei enwebu'n gadeirydd mwy nag un pwyllgor yn yr un cyfarfod. Byddai darpariaeth gysylltiedig yn y Rheol Sefydlog 17.2P arfaethedig yn atal Aelod rhag bod yn gadeirydd mwy nag un pwyllgor, er na fyddai'n rhaid iddo ymddiswyddo o'r rôl gadeirio sydd ganddo eisoes cyn ymgeisio am un newydd.

 

O dan y Rheol Sefydlog 17.2I newydd arfaethedig, os mai un enwebiad yn unig a geir, rhaid i’r Llywydd gynnig bod yr Aelod hwnnw’n cael ei ethol, ond os gwrthwynebir hynny, rhaid cynnal pleidlais gyfrinachol. Mae'r drefn hon yn adlewyrchu'r drefn ar gyfer enwebu Llywydd ac yn gyfle i'r Aelodau wrthwynebu un enwebiad. Mae hyn yn rhoi cefnogaeth gan y Cynulliad ar gyfer un enwebiad.

 

13.     Y system bleidleisio

 

14.     Mae'r Rheolau Sefydlog 17.2I i 17.2K newydd arfaethedig yn nodi'r weithdrefn ar gyfer cynnal pleidlais gyfrinachol i ethol cadeirydd pwyllgor os bydd dau neu fwy o Aelodau wedi'u henwebu. O dan Reol Sefydlog 17.2J arfaethedig, mewn pleidlais rhwng dau Aelod, etholir yr Aelod sydd â'r nifer fwyaf o bleidleisiau.

 

15.     Yn unol â'r Rheol Sefydlog 17.2K newydd arfaethedig, os enwebir mwy na dau ymgeisydd, cynhelir pleidlais drwy nodi'r ymgeiswyr yn nhrefn y dewis cyntaf, yr ail ddewis, y trydydd dewis ac ati. Ni fyddai'n rhaid i'r Aelodau roi pob ymgeisydd yn nhrefn blaenoriaeth os nad ydynt yn dymuno gwneud hynny. Os na chaiff yr un ymgeisydd fwy na hanner y pleidleisiau dewis cyntaf a fwriwyd, caiff yr ymgeisydd sydd â'r nifer lleiaf o bleidleisiau dewis cyntaf ei hepgor, gan ailddosbarthu ei bleidleisiau ail ddewis.  Bydd y broses hon yn parhau tan fod un ymgeisydd yn sicrhau mwy na hanner y pleidleisiau a fwriwyd.

 

16.     Mae'r drefn hon yn gyson â'r system a ddefnyddir yn Nhŷ'r Cyffredin ac mae'n osgoi'r angen i gynnal sawl pleidlais gyfrinachol, a fyddai'n achosi mwy o heriau ymarferol o ran y posibilrwydd o gynnal sawl pleidlais olynol am sawl cadeirydd gwahanol yn yr un cyfnod.

 

Diswyddo cadeirydd

 

17.     Mae'r Rheol Sefydlog 17.2M newydd arfaethedig yn darparu ar gyfer diswyddo cadeirydd. Mae'n adlewyrchu'r ddarpariaeth yn Nhŷ'r Cyffredin drwy ei gwneud yn ofynnol bod mwyafrif o aelodau pwyllgor, a rheini'n cynrychioli mwy nag un grŵp, yn cefnogi unrhyw gynnig o ddiffyg hyder.  Byddai Rheol Sefydlog 17.2N yn atal cadeirydd rhag cymryd rhan mewn pleidlais ar y cwestiwn a ddylai gael ei ddiswyddo, ac mae'n datgymhwyso Rheol Sefydlog 17.37 mewn perthynas â hawl cadeirydd i bleidleisio a'i ddefnydd o'r bleidlais fwrw. Pe bai pleidlais gyfartal o dan 17.2M, byddai'r cynnig yn methu gan nad oedd mwyafrif o'i blaid.

 

18.     Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylai'r Cynulliad cyfan hefyd gymeradwyo pleidlais o'r fath, gam mai'r Cynulliad a fyddai wedi ethol y cadeirydd yn y lle cyntaf.  Yn wahanol i weithdrefn Tŷ'r Cyffredin, lle na ellir gwneud cynigion o ddiffyg hyder o fewn chwe mis i ethol cadeirydd, nac o fewn 12 mis ar ôl i gynnig o ddiffyg hyder fethu, nid yw gweithdrefn arfaethedig y Cynulliad yn cyfyngu ar pryd y gellid gwneud cynnig o ddiffyg hyder.   Cytunodd y Rheolwyr Busnes fod yr angen i'r Cynulliad gymeradwyo penderfyniad y Pwyllgor yn diogelu'r cadeirydd pwyllgor yn addas a chymesur mewn perthynas â chynnig i'w ddiswyddo.

 

19.     Mae'r Rheol Sefydlog 17.2O newydd arfaethedig hefyd yn nodi'n glir fod yn rhaid i bwyllgor ystyried unrhyw gynnig i ddiswyddo cadeirydd cyn gynted â phosibl, gan ddiogelu'r pwyllgor rhag i'r cadeirydd flocio cynnig o'r fath. 

 

Yr effaith ar gydbwysedd rhwng y pleidiau yn sgil swydd wag

 

20.     Mae'r Rheolau Sefydlog 17.2P a 17.2O newydd arfaethedig yn nodi'r amgylchiadau lle y gallai fod swydd wag ar bwyllgor (gan gynnwys adlewyrchu amgylchiadau'r Rheol Sefydlog 17.11 gyfredol ar gyfer aelodau pwyllgorau). Mae'r Rheolau Sefydlog 17.2R i 17.2S newydd arfaethedig yn nodi'r weithdrefn ar gyfer ymdrin â swydd wag o'r fath, gan gynnwys darpariaeth i'r Pwyllgor Busnes ystyried yr effaith bosibl o ran cydbwysedd gwleidyddol yr holl bwyllgorau yn gyffredinol. Mae'n caniatáu i'r Pwyllgor Busnes gynnig newid dyraniad cadeiryddion y pwyllgorau pe bai swydd wag yn arwain at newid o ran cydbwysedd gwleidyddol y Cynulliad. Mae'r amgylchiadau lle y gallai hynny ddigwydd yn cynnwys pe bai Aelod yn ymuno â grŵp gwleidyddol, yn gadael grŵp gwleidyddol, neu'n peidio â bod yn Aelod, gan arwain at isetholiad.  

Datgymhwyso'r weithdrefn

21.     Mae'r Rheol Sefydlog 17.2T newydd arfaethedig yn caniatáu i'r Cynulliad ddatgymhwyso'r weithdrefn ar gyfer ethol cadeiryddion pwyllgorau ac ethol cadeirydd â chefnogaeth dwy ran o dair o'r Aelodau. Gallai fod yn briodol datgymhwyso'r weithdrefn, er enghraifft, pe bai consensws y dylai'r Llywydd neu'r Dirprwy Lywydd gadeirio pwyllgor penodol.

 

Newidiadau Canlyniadol

 

22.     Cynigir diwygiad canlyniadol i Reol Sefydlog 12.16 hefyd er mwyn ychwanegu cynigion o dan 17.2A, sy'n pennu o ba blaid y dylid ethol cadeirydd pwyllgor, at yr eitemau y caniateir ymdrin â hwy mewn cyfarfod llawn heb hysbysiad. Bydd hyn yn atal unrhyw oedi diangen wrth gynnig ethol cadeirydd ar ôl sefydlu pwyllgor.

 

23.     Gwnaed newidiadau canlyniadol i'r rhifau perthnasol yn Rheol Sefydlog 17.21.

 

 

Camau gweithredu

 

24.     Derbyniodd y Pwyllgor Busnes y newidiadau i'r Rheolau Sefydlog yn ffurfiol ar 21 Mehefin 2016, a gwahoddir y Cynulliad i gymeradwyo'r cynigion a nodir yn Atodiad B.

 

 

 


Atodiad A

RHEOL SEFYDLOG 17 – Gweithredu Pwyllgorau

RHEOL SEFYDLOG 17 – Gweithredu Pwyllgorau

 

Cyffredinol

 

17.1

Mae Rheol Sefydlog 17 yn gymwys i bob un o bwyllgorau’r Cynulliad ac eithrio pan fydd wedi’i datgymhwyso gan Reol Sefydlog arall.

Cadw'r Rheol Sefydlog hon

17.2

Caiff unrhyw Aelod gyflwyno cynnig i roi cyfarwyddiadau penodol neu gyffredinol i unrhyw bwyllgor.

Cadw'r Rheol Sefydlog hon

 

Cadeiryddion Pwyllgorau

Is-bennawd newydd

17.2A

Rhaid i’r Cynulliad ystyried cynnig a gyflwynir gan y Pwyllgor Busnes i gytuno ar y grŵp gwleidyddol y mae’r cadeirydd sydd i’w ethol yn perthyn iddo ar gyfer pob pwyllgor a sefydlir drwy benderfyniad gan y Cynulliad.

Rheol Sefydlog newydd

Mae'r Rheol Sefydlog hon yn caniatáu i'r Pwyllgor Busnes gyflwyno cynnig sy'n nodi'r grŵp gwleidyddol y dylai cadeirydd pob pwyllgor fod yn perthyn iddo. Bydd angen gwneud hyn cyn y gellid ethol cadeiryddion.

17.2B

Wrth gyflwyno cynnig o dan Reol Sefydlog 17.2A, rhaid i’r Pwyllgor Busnes roi sylw i’r angen i sicrhau bod cydbwysedd y cadeiryddion ar draws y pwyllgorau yn adlewyrchu’r grwpiau gwleidyddol y mae’r Aelodau yn perthyn iddynt.

Rheol Sefydlog newydd

Mae'r ddarpariaeth hon yn adlewyrchu ac yn cymryd lle'r Rheol Sefydlog 17.4 gyfredol, sy'n sicrhau bod dyraniad cadeiryddion pwyllgorau yn adlewyrchu cydbwysedd gwleidyddol y Cynulliad. 

17.2C

Ni chaniateir cyflwyno gwelliant i gynnig o dan Reol Sefydlog 17.2A.

Rheol Sefydlog newydd

Mae'r drefn hon yn gyson â'r drefn ar gyfer cynnig na ellir ei ddiwygio i benodi aelodau pwyllgorau, o dan Reol Sefydlog 17.5 isod.

17.2D

Ni chaniateir pasio cynnig o dan Reol Sefydlog 17.2A (os caiff y cynnig ei basio drwy bleidlais) oni bai fod o leiaf ddwy ran o dair o’r Aelodau sy’n pleidleisio yn ei gefnogi.

Rheol Sefydlog newydd

Mae'r ddarpariaeth newydd hon o ran y cynnig i ddyrannu cadeiryddion i'r grwpiau yn adlewyrchu'r gofyniad bod dwy ran o dair o’r Aelodau yn cefnogi aelodaeth pwyllgor (Rheol Sefydlog 17.6). Mae'n sicrhau na all mwyafrif bach orfodi ei ewyllys ar y Cynulliad.

 

Ethol Cadeiryddion Pwyllgorau

Is-bennawd newydd

17.2E

Rhaid i’r Cynulliad ethol Aelod yn gadeirydd ar gyfer pob pwyllgor a sefydlir drwy benderfyniad gan y Cynulliad.

Rheol Sefydlog newydd

Mae'r Rheol Sefydlog hon yn darparu y caiff y Cynulliad ethol cadeiryddion yn uniongyrchol.

17.2F

Yn un o gyfarfodydd llawn y Cynulliad, rhaid i'r Llywydd wahodd enwebiadau. Dim ond Aelod o'r grŵp gwleidyddol a nodir yn y cynnig perthnasol o dan Reol Sefydlog 17.2A y caniateir iddo gael ei enwebu, a dim ond Aelod o'r un grŵp y caniateir iddo wneud yr enwebiad.

Rheol Sefydlog newydd

Mae'r Rheol Sefydlog newydd arfaethedig yn darparu ar gyfer enwebu Aelod i'w ethol yn gadeirydd pwyllgor penodol. Ym mhob etholiad, dim ond Aelodau o'r grŵp y dyrannwyd y gadeiryddiaeth honno iddo a fyddai'n gymwys i gyflwyno eu henwau fel ymgeiswyr, a byddai'n rhaid iddynt gael eu henwebu gan Aelodau o'r un grŵp.

17.2G

Rhaid i enwebiad gan grŵp gwleidyddol sydd â mwy nag 20 aelod gael ei eilio gan aelod o’r grŵp hwnnw.

Mae’r ddarpariaeth hon yn ei gwneud yn ofynnol bod enwebiadau gan grwpiau mawr yn cael cefnogaeth mwy na dim ond un aelod o’r grŵp hwnnw. Mae’n llai priodol ar gyfer grwpiau llai.

17.2H

Os cyflwynir enwebiadau ar gyfer cadeiryddion mwy nag un pwyllgor yn yr un cyfarfod o'r Cynulliad, ni chaniateir i Aelod gael ei enwebu i fod yn gadeirydd mwy nag un o'r pwyllgorau hynny.

 

Mae'r Rheol Sefydlog hon yn atal yr un Aelod rhag cael ei enwebu'n gadeirydd mwy nag un pwyllgor yn yr un cyfarfod.

17.2I

Os enwebir un Aelod yn unig, rhaid i’r Llywydd gynnig bod yr Aelod a enwebwyd yn cael ei ethol yn gadeirydd y pwyllgor. Os gwrthwynebir hynny neu os ceir dau neu ragor o enwebiadau, rhaid i’r Llywydd drefnu bod yr etholiad yn cael ei gynnal drwy bleidlais gyfrinachol.

Rheol Sefydlog newydd

Mae'r drefn hon yn adlewyrchu'r drefn ar gyfer enwebu’r Llywydd. Os mai un enwebiad yn unig a geir, a bod gwrthwynebiad iddo, rhaid cynnal pleidlais gyfrinachol. Yr un yw’r drefn os ceir mwy nag un ymegisydd.

17.2J

Os bydd dau Aelod wedi'u henwebu, rhaid i’r Llywydd ddatgan mai’r Aelod sydd wedi sicrhau’r nifer mwyaf o’r pleidleisiau a fwriwyd yn y bleidlais gyfrinachol sydd wedi’i ethol. Os bydd nifer y pleidleisiau ar gyfer y ddau ymgeisydd yn gyfartal, rhaid cynnal pleidlais gyfrinachol arall.

Rheol Sefydlog newydd

Mewn pleidlais rhwng dau Aelod, etholir yr Aelod sydd â'r nifer mwyaf o bleidleisiau.

17.2K

Os bydd mwy na dau Aelod wedi'u henwebu, rhaid i'r Aelodau bleidleisio drwy nodi faint bynnag o ymgeiswyr a fynnant yn nhrefn blaenoriaeth. Os na chaiff yr un Aelod fwy na hanner y pleidleisiau dewis cyntaf a fwriwyd, rhaid hepgor yr ymgeisydd sydd â'r nifer lleiaf o bleidleisiau dewis cyntaf ac ailddosbarthu ei bleidleisiau rhwng yr ymgeiswyr sy'n weddill yn nhrefn blaenoriaeth. Rhaid ailadrodd y broses hon o hepgor ymgeiswyr ac ailddosbarthu eu pleidleisiau tan y bydd un ymgeisydd yn sicrhau mwy na hanner y pleidleisiau a fwriwyd. Os bydd nifer y pleidleisiau ar gyfer y ddau ymgeisydd sy'n weddill yn gyfartal, rhaid cynnal pleidlais gyfrinachol arall.

Rheol Sefydlog newydd
Os enwebir mwy na dau ymgeisydd, cynhelir pleidlais drwy nodi'r ymgeiswyr yn nhrefn dewis cyntaf, ail ddewis, trydydd dewis ac ati. Ni fyddai'n rhaid i'r Aelodau roi pob ymgeisydd yn nhrefn blaenoriaeth os nad oeddent yn dymuno gwneud hynny. Os na chaiff yr un ymgeisydd fwy na hanner y pleidleisiau dewis cyntaf a fwriwyd, caiff yr ymgeisydd sydd â'r nifer lleiaf o bleidleisiau dewis cyntaf ei hepgor, gan ailddosbarthu ei bleidleisiau ail ddewis.  Bydd y broses hon yn parhau tan fod un ymgeisydd yn sicrhau mwy na hanner y pleidleisiau a fwriwyd.

 

Cadeiryddion Pwyllgorau: Ymddiswyddo, Diswyddo a Swyddi Gwag

Is-bennawd newydd

17.2L

Caiff cadeirydd pwyllgor ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Pwyllgor Busnes.

Rheol Sefydlog newydd 

Mae'r drefn hon yr un fath a'r ddarpariaeth bresennol ar gyfer aelodau pwyllgorau yn gyffredinol.

17.2M

Caiff unrhyw bwyllgor benderfynu y dylid diswyddo ei gadeirydd, ond ni ddaw'r cyfryw benderfyniad i rym oni bai ei fod:

(i)        yn cael ei gefnogi gan fwyafrif yr Aelodau sy'n pleidleisio yn y pwyllgor, yn cynnwys aelodau nad ydynt oll yn perthyn i'r un grŵp gwleidyddol;

(ii)      yn cael ei gymeradwyo'n ddilynol gan y Cynulliad drwy gynnig a gyflwynir gan aelod o'r pwyllgor.

Rheol Sefydlog newydd 

Mae'r Rheol Sefydlog newydd hon yn darparu ar gyfer diswyddo cadeirydd. Mae'n adlewyrchu'r ddarpariaeth yn Nhŷ'r Cyffredin drwy ei gwneud yn ofynnol bod mwyafrif o aelodau pwyllgorau, yn cynrychioli mwy nag un grŵp, yn cefnogi unrhyw gynnig o ddiffyg hyder.  Ystyrir ei bod yn briodol y dylai unrhyw gynnig o ddiffyg hyder gael ei gymeradwyo'n ddilynol gan y Cynulliad cyfan, gan mai'r Cynulliad a etholodd y cadeirydd yn y lle cyntaf.  Ni fydd cadeirydd a gaiff ei ddiswyddo yn y ffordd hon yn cael ei rwystro rhag ymgeisio eto mewn etholiad i'r un swydd yn y dyfodol.

17.2N

Ni chaiff cadeirydd pwyllgor gymryd rhan mewn pleidlais ar gynnig o dan Reol Sefydlog 17.2M, ac nid yw Rheol Sefydlog 17.37 yn gymwys i'r cyfryw gynigion.

Rheol Sefydlog newydd

Mae'r Rheol Sefydlog newydd hon yn atal cadeirydd rhag cymryd rhan mewn pleidlais ar y cwestiwn a ddylai gael ei ddiswyddo, ac mae'n datgymhwyso Rheol Sefydlog 17.37 mewn perthynas â hawl cadeirydd i bleidleisio a'i ddefnydd o'r bleidlais fwrw. Pe bai pleidlais gyfartal o dan 17.2L, byddai'r cynnig yn methu gan nad oedd mwyafrif o'i blaid.

17.2O

Rhaid i'r pwyllgor ystyried unrhyw gynnig a gyflwynir o dan Reol Sefydlog 17.2M(i) cyn gynted â phosibl, a rhoi blaenoriaeth i gynnig o'r fath dros unrhyw fusnes arall. 

Rheol Sefydlog newydd

Mae'r Rheol Sefydlog newydd hon yn nodi'n glir bod yn rhaid i bwyllgor ystyried unrhyw gynnig i ddiswyddo cadeirydd cyn gynted â phosibl, gan ddiogelu'r pwyllgor rhag i'r cadeirydd rwystro cynnig o'r fath.  

17.2P

Daw swydd y cadeirydd yn wag pan fo'r Aelod dan sylw:

(i)     yn ymddiswyddo yn unol â Rheol Sefydlog 17.2L;

(ii)   yn cael ei ddiswyddo yn unol â Rheol Sefydlog 17.2M;

(iii)  yn cael ei ethol yn gadeirydd pwyllgor arall;

(iv)  yn peidio â bod yn Aelod; neu

(v)   yn ymuno â grŵp gwleidyddol neu'n gadael grŵp gwleidyddol.

Rheol Sefydlog newydd 

Mae'r Rheol Sefydlog newydd hon yn adlewyrchu'r ddarpariaeth ar gyfer aelodau pwyllgorau yn gyffredinol o dan Reolau Sefydlog 17.11 a 17.12, gyda'r ddarpariaeth ychwanegol y daw'r swydd yn wag os caiff y deiliad ei ethol yn gadeirydd pwyllgor arall. Mae hyn yn atal yr un Aelod rhag bod yn gadeirydd mwy nag un pwyllgor ar yr un pryd.

17.2Q

Daw swydd y cadeirydd yn wag os bydd y Cynulliad yn cytuno ar gynnig o dan Reol Sefydlog 17.2A i newid y grŵp gwleidyddol y caniateir ethol cadeirydd y pwyllgor ohono, yn unol â Rheol Sefydlog 17.2R.

Rheol Sefydlog newydd

Os bydd y Cynulliad yn cytuno i newid y grŵp gwleidyddol y caniateir ethol cadeirydd y pwyllgor ohono, daw'r swydd cadeirydd honno yn wag yn awtomatig.

17.2R

Pan fydd swydd cadeirydd yn dod yn wag:

(i)           rhaid i'r Pwyllgor Busnes ystyried effaith y swydd wag honno ar gydbwysedd cadeiryddion y pwyllgorau o ran y grwpiau gwleidyddol;

(ii)          caiff y Pwyllgor Busnes, gan roi sylw i’r ystyriaeth honno, gyflwyno cynnig o dan Reol Sefydlog 17.2A i newid y grŵp gwleidyddol y caniateir ethol cadeirydd y pwyllgor lle y cododd y swydd wag ohono;

(iii)        caiff y Pwyllgor Busnes, gan roi sylw i’r ystyriaeth honno, hefyd gyflwyno un neu fwy o gynigion o dan Reol Sefydlog 17.2A i newid y grŵp gwleidyddol y caniateir ethol cadeirydd unrhyw bwyllgor arall ohono. 

Rheol Sefydlog newydd

Mae'r Rheol Sefydlog hon yn pennu darpariaethau sy'n debyg i'r rhai a geir yn Rheol Sefydlog 17.13 mewn perthynas â swydd wag o ran aelodau eraill pwyllgor.

Mae'n caniatáu i'r Pwyllgor Busnes gynnig newid dyraniad cadeiryddion y pwyllgorau pe bai swydd wag yn arwain at newid o ran cydbwysedd gwleidyddol y Cynulliad.

17.2S

Rhaid llenwi swydd wag cadeirydd pwyllgor drwy gynnal etholiad o dan Reolau Sefydlog 17.2E hyd at 17.2K.

Rheol Sefydlog newydd

Byddai swydd wag yn cael ei llenwi yn yr un ffordd ag yr etholwyd y cadeirydd gwreiddiol.

17.2T

Caniateir i Reolau Sefydlog 17.2A hyd at 17.2S gael eu datgymhwyso drwy benderfyniad gan y Cynulliad (ar yr amod, os caiff y cynnig ar gyfer y penderfyniad ei basio drwy bleidlais, nad yw’n dod i rym oni bai bod o leiaf ddwy ran o dair o’r rhai sy’n pleidleisio yn ei gefnogi) mewn perthynas â phwyllgor a nodir drwy gynnig a gyflwynir gan y Pwyllgor Busnes. Os caiff y Rheolau Sefydlog eu datgymhwyso, mae Rheolau Sefydlog 17.3 hyd at 17.16 yn gymwys i bob aelod o'r pwyllgor a nodir a rhaid i'r cynnig perthnasol o dan Reol Sefydlog 17.3 hefyd gynnig y cadeirydd.

Rheol Sefydlog newydd

 

Mae'r Rheol Sefydlog arfaethedig hon yn caniatáu i'r Cynulliad ddatgymhwyso'r broses o ethol cadeiryddion yn achos pwyllgor penodol, os bydd y Pwyllgor Busnes yn cynnig gwneud hynny.

 

Aelodaeth Pwyllgorau

Cadw'r is-bennawd hwn.

17.3

Rhaid i’r Cynulliad ystyried cynnig a gyflwynir gan y Pwyllgor Busnes i gytuno ar weddill aelodaeth a chadeirydd pob pwyllgor a sefydlir drwy benderfyniad gan y Cynulliad, ac eilyddion ar gyfer y pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 22.

Diwygio'r Rheol Sefydlog hon.

Newid canlyniadol, gan mai dim ond i aelodau pwyllgor ar wahân i'r cadeirydd y byddai'r gweithdrefnau hyn yn gymwys.

17.4

Wrth gyflwyno cynnig o dan Reol Sefydlog 17.3, rhaid i’r Pwyllgor Busnes roi sylw i’r angen i sicrhau bod cydbwysedd y cadeiryddion ar draws y pwyllgorau yn adlewyrchu’r grwpiau gwleidyddol y mae’r Aelodau yn perthyn iddynt.

Dileu'r Rheol Sefydlog

Byddai Rheol Sefydlog 17.2B uchod yn cwmpasu'r darpariaethau hyn.

17.5

Ni chaniateir cyflwyno gwelliant i gynnig o dan Reol Sefydlog 17.3.

Cadw'r Rheol Sefydlog hon

17.6

Ni chaniateir i gynnig i gytuno ar weddill aelodaeth pwyllgor o dan Reol Sefydlog 17.3 gael ei basio oni bai:

(i)           bod cyfanswm yr aelodaeth (cyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol) yn adlewyrchu cydbwysedd y grwpiau gwleidyddol y mae’r Aelodau yn perthyn iddynt; a

(ii)      (os caiff y cynnig ei basio drwy bleidlais), fod o leiaf ddwy ran o dair o’r Aelodau sy’n pleidleisio yn ei gefnogi.

Diwygio'r Rheol Sefydlog hon.

Newid canlyniadol, er mwyn nodi'n glir bod y cadeirydd wedi'i gynnwys wrth gyfrifo cydbwysedd gwleidyddol pwyllgor.

17.7

Os nad yw cynnig i gytuno ar weddill aelodaeth pwyllgor o dan Reol Sefydlog 17.3 yn cael ei basio, rhaid i’r Cynulliad ystyried cynnig a gyflwynir gan y Pwyllgor Busnes i bennu maint y pwyllgor, a y grŵp gwleidyddol y mae’r cadeirydd sydd i’w benodi yn perthyn iddo; a rhaid i’r lleoedd ar y pwyllgor hwnnw gael eu dyrannu yn unol â gweithredu adrannau 29(3) i (7) o’r Ddeddf fel y’u haddaswyd yn unol â Rheol Sefydlog 17.8.

Diwygio'r Rheol Sefydlog hon.

Newid canlyniadol, gan y byddai cadeiryddion yn cael eu dyrannu drwy gynnig ar wahân.

17.8

Mewn perthynas ag unrhyw le ar bwyllgor sydd i’w ddyrannu yn unol ag adrannau 29(3) i (7) o’r Ddeddf:

(i)        os yw nifer yr Aelodau sy’n perthyn i ddau neu fwy o grwpiau gwleidyddol yr un fath a’i fod yn fwy na’r nifer sy’n perthyn i unrhyw grŵp gwleidyddol arall; neu

(ii)      os yw’r nifer a geir drwy ddefnyddio adran 29(6) o’r Ddeddf yr un fath ar gyfer dau neu fwy o grwpiau gwleidyddol a’i fod yn fwy na’r nifer a geir fel hyn ar gyfer unrhyw grŵp gwleidyddol arall,

rhaid i’r Llywydd benderfynu i ba grŵp gwleidyddol y mae’r lle hwnnw i’w ddyrannu.

Cadw'r Rheol Sefydlog hon

17.9

Os yw’r lleoedd ar unrhyw bwyllgor i’w dyrannu i grŵp gwleidyddol yn unol â Rheol Sefydlog 17.3 neu 17.7, mater i’r grŵp gwleidyddol hwnnw yw pennu enwau: (i) yr Aelodau a ddyrennir o’r grŵp ac eithrio'r cadeirydd; a (ii) y cadeirydd, pan fydd y grŵp gwleidyddol hwnnw yn dal y gadair.

Diwygio'r Rheol Sefydlog hon.

Newid canlyniadol, gan y byddai cadeiryddion yn cael eu hethol ar wahân.

17.10

Rhaid i unrhyw gynnig o dan Reol Sefydlog 17.3 neu 17.7 (cyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol o roi sylw i gyfanswm y lleoedd ar bwyllgorau) sicrhau:

(i)           bod pob Aelod nad yw’n perthyn i grŵp gwleidyddol yn cael cynnig lle ar un pwyllgor o leiaf; a

(ii)         bod cyfanswm y lleoedd ar bwyllgorau a ddyrennir i Aelodau sy’n perthyn i bob grŵp gwleidyddol o leiaf yr un mor fawr â nifer yr Aelodau sy’n perthyn i’r grŵp gwleidyddol.

Cadw'r Rheol Sefydlog hon

17.11

Mae swydd wag yn codi ar bwyllgor pan fydd Aelod, ac eithrio'r cadeirydd:

(i)           yn ymddiswyddo o’r pwyllgor drwy hysbysu’r Pwyllgor Busnes;

(ii)         yn cael ei ddiswyddo o’r pwyllgor drwy benderfyniad gan y Cynulliad;

(iii)        yn cael ei ethol yn gadeirydd y pwyllgor hwnnw gan y Cynulliad;

(iv)        yn peidio â bod yn Aelod; neu

(v)          yn peidio â bod yn aelod o’r pwyllgor yn unol â Rheol Sefydlog 17.12.

Diwygio'r Rheol Sefydlog hon.

Newid canlyniadol, gan y byddai cadeiryddion yn cael eu hethol ar wahân.

17.12

Mae Aelod yn peidio â bod yn aelod o bwyllgor os yw’n ymuno â grŵp gwleidyddol neu’n ymadael ag ef.

Cadw'r Rheol Sefydlog hon

17.13

Pan fydd swydd wag yn codi ar bwyllgor, mae’r Pwyllgor Busnes:

(i)        yn gorfod ystyried effaith y swydd wag honno ar aelodaeth y pwyllgor hwnnw ac unrhyw bwyllgor arall;

(ii)      o roi sylw i’r ystyriaeth honno, yn gorfod cyflwyno cynnig o dan Reol Sefydlog 17.3 i gynnig newid aelodaeth y pwyllgor y cododd y swydd wag arno; a

(iii)     o roi sylw i’r ystyriaeth honno, yn cael cyflwyno hefyd un neu fwy o gynigion o dan Reol Sefydlog 17.3 i gynnig newid aelodaeth unrhyw bwyllgor arall; a

(iv)     os yw o’r farn bod hynny’n briodol, yn cael cyflawni unrhyw rai o'i swyddogaethau o dan Reol Sefydlog 17.2P mewn perthynas ag effaith y swydd wag honno ar gydbwysedd cadeiryddion y pwyllgorau o ran eu grwpiau gwleidyddol.

Diwygio'r Rheol Sefydlog hon.

Mae'r diwygiad arfaethedig yn galluogi'r Pwyllgor Busnes i newid dyraniad y cadeiryddion, pe bai'n briodol gwneud hynny yn sgil swydd wag ymhlith yr aelodau eraill. Gallai hyn ddigwydd, er enghraifft, pan fo swydd wag a gododd o dan Reol Sefydlog 17.12 yn arwain at newid cydbwysedd y grwpiau gwleidyddol.

17.14

Os bydd grŵp gwleidyddol yn hysbysu’r Pwyllgor Busnes ei fod yn dymuno newid ei gynrychiolaeth ar bwyllgor, rhaid i’r Pwyllgor Busnes gyflwyno cynnig er mwyn gweithredu hynny.

Cadw'r Rheol Sefydlog hon

17.15

Os llenwi’r swydd wag ag Aelod o’r un grŵp gwleidyddol yw unig effaith cynnig y cyfeirir ato yn Rheol Sefydlog 17.13(ii) neu 17.14, nid yw Rheol Sefydlog 17.6(ii) yn gymwys.

Cadw'r Rheol Sefydlog hon

17.16

Rhaid i unrhyw gwestiwn sy’n codi o dan Reolau Sefydlog 17.6 a 17.10 gael ei benderfynu gan y Llywydd.

Cadw'r Rheol Sefydlog hon

 

Cadeiryddion

Cadw'r is-bennawd hwn.

17.21

Rhaid i bob pwyllgor, yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 17.22, gael ei gadeirio gan yr Aelod a benodwyd i’r rôl honno yn unol â Rheolau Sefydlog 17.3, 17.7,17.9 a 17.14 17.2E neu 17.2T.

Mae angen diwygiad canlyniadol er mwyn ystyried y weithdrefn newydd ar gyfer ethol cadeiryddion.

 

 

 

NEWID CANLYNIADOL  

12.16

Mae’r categorïau o fusnes y caniateir ymdrin â hwy mewn cyfarfod llawn heb hysbysiad, gyda chytundeb y Llywydd, yn cynnwys:

(i)        datganiadau gan y Llywydd, gan aelod o’r llywodraeth neu gan y Comisiwn am unrhyw fater sydd o fewn ei gyfrifoldebau;

(ii)      cyflwyno Aelodau newydd;

(iii)     teyrngedau coffa i gyn-Aelodau ac eraill;

(iv)     etholiadau, enwebiadau neu benodiadau gan y Cynulliad, gan gynnwys cynigion o dan Reol Sefydlog 17.2A;

(v)       datganiadau personol;

(vi)     unrhyw ddadl frys a gynigir gan Aelod o dan Reol Sefydlog 12.69; 

(vii)    cynigion gweithdrefnol o dan Reol Sefydlog 12.31;

(viii)  pwyntiau o drefn sy’n ymwneud â chynnal busnes; ac

(ix)     unrhyw faterion eraill sy’n briodol ym marn y Llywydd.

 

Diwygio'r Rheol Sefydlog hon.

Mae'r diwygiad yn ychwanegu cynigion o dan 17.2A, sy'n pennu o ba blaid y dylid ethol cadeirydd pwyllgor, at yr eitemau y caniateir ymdrin â hwy heb hysbysiad mewn cyfarfod llawn. Bydd hyn yn atal unrhyw oedi diangen wrth gynnig ethol cadeirydd ar ôl sefydlu pwyllgor.

 

 

 


Atodiad B

RHEOL SEFYDLOG 17 – Gweithredu Pwyllgorau

Cyffredinol

17.1   Mae Rheol Sefydlog 17 yn gymwys i bob un o bwyllgorau’r Cynulliad ac eithrio pan fydd wedi’i datgymhwyso gan Reol Sefydlog arall.

17.2   Caiff unrhyw Aelod gyflwyno cynnig i roi cyfarwyddiadau penodol neu gyffredinol i unrhyw bwyllgor.

Cadeiryddion Pwyllgorau

17.2A Rhaid i’r Cynulliad ystyried cynnig a gyflwynir gan y Pwyllgor Busnes i gytuno ar y grŵp gwleidyddol y mae’r cadeirydd sydd i’w ethol yn perthyn iddo ar gyfer pob pwyllgor a sefydlir drwy benderfyniad gan y Cynulliad.

17.2B Wrth gyflwyno cynnig o dan Reol Sefydlog 17.2A, rhaid i’r Pwyllgor Busnes roi sylw i’r angen i sicrhau bod cydbwysedd y cadeiryddion ar draws y pwyllgorau yn adlewyrchu’r grwpiau gwleidyddol y mae’r Aelodau yn perthyn iddynt.

17.2C Ni chaniateir cyflwyno gwelliant i gynnig o dan Reol Sefydlog 17.2A.

17.2D Ni chaniateir pasio cynnig o dan Reol Sefydlog 17.2A (os caiff y cynnig ei basio drwy bleidlais) oni bai fod o leiaf ddwy ran o dair o’r Aelodau sy’n pleidleisio yn ei gefnogi.

 

Ethol Cadeiryddion Pwyllgorau

17.2E Rhaid i’r Cynulliad ethol Aelod yn gadeirydd ar gyfer pob pwyllgor a sefydlir drwy benderfyniad gan y Cynulliad.

17.2F Yn un o gyfarfodydd llawn y Cynulliad, rhaid i'r Llywydd wahodd enwebiadau. Dim ond Aelod o'r grŵp gwleidyddol a nodir yn y cynnig perthnasol o dan Reol Sefydlog 17.2A y caniateir iddo gael ei enwebu, a dim ond Aelod o'r un grŵp y caniateir iddo wneud yr enwebiad.

17.2G Rhaid i enwebiad gan grŵp gwleidyddol sydd â mwy nag 20 aelod gael ei eilio gan aelod o’r grŵp hwnnw.

17.2H Os cyflwynir enwebiadau ar gyfer cadeiryddion mwy nag un pwyllgor yn yr un cyfarfod o'r Cynulliad, ni chaniateir i Aelod gael ei enwebu i fod yn gadeirydd mwy nag un o'r pwyllgorau hynny.

17.2I  Os enwebir un Aelod yn unig, rhaid i’r Llywydd gynnig bod yr Aelod a enwebwyd yn cael ei ethol yn gadeirydd y pwyllgor. Os gwrthwynebir hynny neu os ceir dau neu ragor o enwebiadau, rhaid i’r Llywydd drefnu bod yr etholiad yn cael ei gynnal drwy bleidlais gyfrinachol.

17.2J  Os bydd dau Aelod wedi'u henwebu, rhaid i’r Llywydd ddatgan mai’r Aelod sydd wedi sicrhau’r nifer mwyaf o’r pleidleisiau a fwriwyd yn y bleidlais gyfrinachol sydd wedi’i ethol. Os bydd nifer y pleidleisiau ar gyfer y ddau ymgeisydd yn gyfartal, rhaid cynnal pleidlais gyfrinachol arall.

17.2K Os bydd mwy na dau Aelod wedi'u henwebu, rhaid i'r Aelodau bleidleisio drwy nodi faint bynnag o ymgeiswyr a fynnant yn nhrefn blaenoriaeth. Os na chaiff yr un Aelod fwy na hanner y pleidleisiau dewis cyntaf a fwriwyd, rhaid hepgor yr ymgeisydd sydd â'r nifer lleiaf o bleidleisiau dewis cyntaf ac ailddosbarthu ei bleidleisiau rhwng yr ymgeiswyr sy'n weddill yn nhrefn blaenoriaeth. Rhaid ailadrodd y broses hon o hepgor ymgeiswyr ac ailddosbarthu eu pleidleisiau tan y bydd un ymgeisydd yn sicrhau mwy na hanner y pleidleisiau a fwriwyd. Os bydd nifer y pleidleisiau ar gyfer y ddau ymgeisydd sy'n weddill yn gyfartal, rhaid cynnal pleidlais gyfrinachol arall.

Cadeiryddion Pwyllgorau: Ymddiswyddo, Diswyddo a Swyddi Gwag

17.2L Caiff cadeirydd pwyllgor ymddiswyddo drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i'r Pwyllgor Busnes.

17.2M Caiff unrhyw bwyllgor benderfynu y dylid diswyddo ei gadeirydd, ond ni ddaw'r cyfryw benderfyniad i rym oni bai ei fod:

(i)           yn cael ei gefnogi gan fwyafrif yr Aelodau sy'n pleidleisio yn y pwyllgor, yn cynnwys aelodau nad ydynt oll yn perthyn i'r un grŵp gwleidyddol;

(ii)          yn cael ei gymeradwyo'n ddilynol gan y Cynulliad drwy gynnig a gyflwynir gan aelod o'r pwyllgor.

17.2N Ni chaiff cadeirydd pwyllgor gymryd rhan mewn pleidlais ar gynnig o dan Reol Sefydlog 17.2M, ac nid yw Rheol Sefydlog 17.37 yn gymwys i'r cyfryw gynigion.

17.2O Rhaid i'r pwyllgor ystyried unrhyw gynnig a gyflwynir o dan Reol Sefydlog 17.2M(i) cyn gynted â phosibl, a rhoi blaenoriaeth i gynnig o'r fath dros unrhyw fusnes arall. 

17.2P Daw swydd y cadeirydd yn wag pan fo'r Aelod dan sylw:

(i)           yn ymddiswyddo yn unol â Rheol Sefydlog 17.2L;

(ii)          yn cael ei ddiswyddo yn unol â Rheol Sefydlog 17.2M;

(iii)        yn cael ei ethol yn gadeirydd pwyllgor arall;

(iv)         yn peidio â bod yn Aelod; neu

(v)          yn ymuno â grŵp gwleidyddol neu'n gadael grŵp gwleidyddol.

 

17.2Q Daw swydd y cadeirydd yn wag os bydd y Cynulliad yn cytuno ar gynnig o dan Reol Sefydlog 17.2A i newid y grŵp gwleidyddol y caniateir ethol cadeirydd y pwyllgor ohono, yn unol â Rheol Sefydlog 17.2R.

17.2R Pan fydd swydd cadeirydd yn dod yn wag:

(i)           rhaid i'r Pwyllgor Busnes ystyried effaith y swydd wag honno ar gydbwysedd cadeiryddion y pwyllgorau o ran y grwpiau gwleidyddol;

(ii)          caiff y Pwyllgor Busnes, gan roi sylw i’r ystyriaeth honno, gyflwyno cynnig o dan Reol Sefydlog 17.2A i newid y grŵp gwleidyddol y caniateir ethol cadeirydd y pwyllgor lle y cododd y swydd wag ohono;

(iii)        caiff y Pwyllgor Busnes, gan roi sylw i’r ystyriaeth honno, hefyd gyflwyno un neu fwy o gynigion o dan Reol Sefydlog 17.2A i newid y grŵp gwleidyddol y caniateir ethol cadeirydd unrhyw bwyllgor arall ohono. 

17.2S Rhaid llenwi swydd wag cadeirydd pwyllgor drwy gynnal etholiad o dan Reolau Sefydlog 17.2E hyd at 17.2K.

17.2T Caniateir i Reolau Sefydlog 17.2A hyd at 17.2S gael eu datgymhwyso drwy benderfyniad gan y Cynulliad (ar yr amod, os caiff y cynnig ar gyfer y penderfyniad ei basio drwy bleidlais, nad yw’n dod i rym oni bai bod o leiaf ddwy ran o dair o’r rhai sy’n pleidleisio yn ei gefnogi) mewn perthynas â phwyllgor a nodir drwy gynnig a gyflwynir gan y Pwyllgor Busnes. Os caiff y Rheolau Sefydlog eu datgymhwyso, mae Rheolau Sefydlog 17.3 hyd at 17.16 yn gymwys i bob aelod o'r pwyllgor a nodir a rhaid i'r cynnig perthnasol o dan Reol Sefydlog 17.3 hefyd gynnig y cadeirydd.

Aelodaeth Pwyllgorau

17.3   Rhaid i’r Cynulliad ystyried cynnig a gyflwynir gan y Pwyllgor Busnes i gytuno ar weddill aelodaeth pob pwyllgor a sefydlir drwy benderfyniad gan y Cynulliad, ac eilyddion ar gyfer y pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 22.

17.4   [Rheol Sefydlog wedi’i dileu drwy benderfyniad y Cynulliad ar XX]

17.5   Ni chaniateir cyflwyno gwelliant i gynnig o dan Reol Sefydlog 17.3.

17.6   Ni chaniateir i gynnig i gytuno ar weddill aelodaeth pwyllgor o dan Reol Sefydlog 17.3 gael ei basio oni bai:

(i)       bod cyfanswm yr aelodaeth (cyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol) yn adlewyrchu cydbwysedd y grwpiau gwleidyddol y mae’r Aelodau yn perthyn iddynt; a

(ii)      (os caiff y cynnig ei basio drwy bleidlais), fod o leiaf ddwy ran o dair o’r Aelodau sy’n pleidleisio yn ei gefnogi.

17.7   Os nad yw cynnig i gytuno ar weddill aelodaeth pwyllgor o dan Reol Sefydlog 17.3 yn cael ei basio, rhaid i’r Cynulliad ystyried cynnig a gyflwynir gan y Pwyllgor Busnes i bennu maint y pwyllgor, a rhaid i’r lleoedd ar y pwyllgor hwnnw gael eu dyrannu yn unol â gweithredu adrannau 29(3) i (7) o’r Ddeddf fel y’u haddaswyd yn unol â Rheol Sefydlog 17.8.

17.8   Mewn perthynas ag unrhyw le ar bwyllgor sydd i’w ddyrannu yn unol ag adrannau 29(3) i (7) o’r Ddeddf:

(i)       os yw nifer yr Aelodau sy’n perthyn i ddau neu fwy o grwpiau gwleidyddol yr un fath a’i fod yn fwy na’r nifer sy’n perthyn i unrhyw grŵp gwleidyddol arall; neu

(ii)      os yw’r nifer a geir drwy ddefnyddio adran 29(6) o’r Ddeddf yr un fath ar gyfer dau neu fwy o grwpiau gwleidyddol a’i fod yn fwy na’r nifer a geir fel hyn ar gyfer unrhyw grŵp gwleidyddol arall,

rhaid i’r Llywydd benderfynu i ba grŵp gwleidyddol y mae’r lle hwnnw i’w ddyrannu.

17.9   Os yw’r lleoedd ar unrhyw bwyllgor i’w dyrannu i grŵp gwleidyddol yn unol â Rheol Sefydlog 17.3 neu 17.7, mater i’r grŵp gwleidyddol hwnnw yw pennu enwau’r Aelodau a ddyrennir o’r grŵp ac eithrio'r cadeirydd.

17.10 Rhaid i unrhyw gynnig o dan Reol Sefydlog 17.3 neu 17.7 (cyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol o roi sylw i gyfanswm y lleoedd ar bwyllgorau) sicrhau:

(i)      bod pob Aelod nad yw’n perthyn i grŵp gwleidyddol yn cael cynnig lle ar un pwyllgor o leiaf; a

(ii)     bod cyfanswm y lleoedd ar bwyllgorau a ddyrennir i Aelodau sy’n perthyn i bob grŵp gwleidyddol o leiaf yr un mor fawr â nifer yr Aelodau sy’n perthyn i’r grŵp gwleidyddol.

17.11 Mae swydd wag yn codi ar bwyllgor pan fydd Aelod, ac eithrio'r cadeirydd:

(i)        yn ymddiswyddo o’r pwyllgor drwy hysbysu’r Pwyllgor Busnes;

(ii)       yn cael ei ddiswyddo o’r pwyllgor drwy benderfyniad gan y Cynulliad;

(iii)      yn cael ei ethol yn gadeirydd y pwyllgor hwnnw gan y Cynulliad;

(iv)         yn peidio â bod yn Aelod; neu

(v)          yn peidio â bod yn aelod o’r pwyllgor yn unol â Rheol Sefydlog 17.12.

17.12 Mae Aelod yn peidio â bod yn aelod o bwyllgor os yw’n ymuno â grŵp gwleidyddol neu’n ymadael ag ef.

17.13 Pan fydd swydd wag yn codi ar bwyllgor, mae’r Pwyllgor Busnes:

(x)      yn gorfod ystyried effaith y swydd wag honno ar aelodaeth y pwyllgor hwnnw ac unrhyw bwyllgor arall;

(xi)     o roi sylw i’r ystyriaeth honno, yn gorfod cyflwyno cynnig o dan Reol Sefydlog 17.3 i gynnig newid aelodaeth y pwyllgor y cododd y swydd wag arno;

(xii)   o roi sylw i’r ystyriaeth honno, yn cael cyflwyno hefyd un neu fwy o gynigion o dan Reol Sefydlog 17.3 i gynnig newid aelodaeth unrhyw bwyllgor arall; a

(xiii)  os yw o’r farn bod hynny’n briodol, yn cael cyflawni unrhyw rai o'i swyddogaethau o dan Reol Sefydlog 17.2Q mewn perthynas ag effaith y swydd wag honno ar gydbwysedd cadeiryddion y pwyllgorau o ran eu grwpiau gwleidyddol.

17.14 Os bydd grŵp gwleidyddol yn hysbysu’r Pwyllgor Busnes ei fod yn dymuno newid ei gynrychiolaeth ar bwyllgor, rhaid i’r Pwyllgor Busnes gyflwyno cynnig er mwyn gweithredu hynny.

17.15 Os llenwi’r swydd wag ag Aelod o’r un grŵp gwleidyddol yw unig effaith cynnig y cyfeirir ato yn Rheol Sefydlog 17.13(ii) neu 17.14, nid yw Rheol Sefydlog 17.6(ii) yn gymwys.

17.16 Rhaid i unrhyw gwestiwn sy’n codi o dan Reolau Sefydlog 17.6 a 17.10 gael ei benderfynu gan y Llywydd.

Cadeiryddion

17.21 Rhaid i bob pwyllgor, yn ddarostyngedig i Reol Sefydlog 17.22, gael ei gadeirio gan yr Aelod a benodwyd i’r rôl honno yn unol â Rheolau Sefydlog 17.2E neu 17.2T.

Newidiadau canlyniadol

12.16 Mae’r categorïau o fusnes y caniateir ymdrin â hwy mewn cyfarfod llawn heb hysbysiad, gyda chytundeb y Llywydd,yn cynnwys:

(i)       datganiadau gan y Llywydd, gan aelod o’r llywodraeth neu gan y Comisiwn am unrhyw fater sydd o fewn ei gyfrifoldebau;

(ii)      cyflwyno Aelodau newydd;

(iii)        teyrngedau coffa i gyn-Aelodau ac eraill;

(iv)         etholiadau, enwebiadau neu benodiadau gan y Cynulliad, gan gynnwys cynigion o dan Reol Sefydlog 17.2A;

(xiv)  datganiadau personol;

(xv)    unrhyw ddadl frys a gynigir gan Aelod o dan Reol Sefydlog 12.69; 

(xvi)  cynigion gweithdrefnol o dan Reol Sefydlog 12.31;

(xvii)pwyntiau o drefn sy’n ymwneud â chynnal busnes; a

(xviii)     unrhyw faterion eraill sy’n briodol ym marn y Llywydd.